3 Hydref, 2008 – Fforwm Cefnogi Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (VYSS)
Trefnwyd cynnal y Fforwm VYSS nesaf ddydd Gwener, 3 Hydref 2008, yn Nhŷ’r Binwydden. Mae croeso cynnes i sefydliadau sector Gwirfoddol a Statudol fynychu’r cyfarfod hwn, sy’n dod â gwasanaethau cefnogi ieuenctid o bob rhan o’r Sir at ei gilydd. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle delfrydol i sefydliadau gael rhwydweithio ag asiantaethau eraill, i rannu’r hyn sy’n digwydd a chlywed am y gwasanaethau eraill sydd ar gael i blant, pobl ifanc a theuluoedd yn Sir y Fflint.
Mae’r siaradwyr ym mis Hydref yn cynnwys:
• Kelly Aldcroft (o ‘Choose to Change’) - i roi gwybod ichi am y gwasanaeth newydd hwn sy’n helpu dynion sydd yn neu sydd wedi cyflawni trais yn y cartref ond sydd am newid eu hymddygiad yn eu perthnasoedd (mae’;r gwasanaeth yn cynnig cymorth i’w partneriaid yn ystod yr un cyfnod);
• Ian Jones (o Scope) – i fwrw golwg gyffredinol ar yr hyn sydd gan Scope i’w gynnig i bobl sydd ag anableddau amrywiol (ac yn enwedig parlys yr ymennydd) sy’n byw yng Ngogledd Cymru;
• Jonathon Bentley (o Gymdeithas Chwarae Gogledd Cymru): i egluro sut y gallai pobl ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru (gan gynnwys Sir y Fflint) gael budd o’r sefydliad hwn;
• Gail Bennett i roi gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf yn ‘Strategaeth Rhieni Sir y Fflint’ gan esbonio sut y gall eich sefydliad barhau i wneud cyfraniad i’r ddogfen bwysig hon.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Fforwm unwaith eto yn Nhŷ’r Binwydden, Clayton Road, Yr Wyddgrug, ddydd Gwener, 3 Hydref 2008. Bydd yn cychwyn am 10yb, a’r bwriad yw gorffen erbyn hanner dydd. Sylwer y bydd egwyl yng nghanol y digwyddiad, a darperir coffi a chacennau am 11 y bore!
Mae nifer cyfyngedig o leoedd a’r ‘cyntaf i’r felin gaiff falu’. I gadw lle yn y Fforwm, cysylltwch â Louise Blackwell yng Nghyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint ar 01352 744002 neu louise.blackwell@flvc.org.uk erbyn 19 Medi 2008 fan bellaf.