Ieuenctid Sir Fflint

Addysg

Mae gennych yr hawl i addysg, hyfforddiant a phrofiad gwaith yn unol â’ch dyheadau, yn ogystal â hyfforddiant o ran y sgiliau sylfaenol a rydd gyfleoedd ichi yn y dyfodol.

Mae penderfynu ynglyn â’r cam nesaf yn eich bywyd yn anodd a chymhleth i rai, ond mae nifer o bobl a all eich helpu i wneud y penderfyniad cywir! Gall staff Gyrfa Cymru eich helpu o ran penderfynu ynglyn â chyrsiau addysgol, neu ynglyn â chymwysterau addas ar gyfer y gwaith yr ydych yn awyddus i’w ddilyn.
Ffoniwch 0800 919520, neu galwch heibio i un o’u siopau:
Yr Wyddgrug Ffôn: 01352 755798
Glannau Dyfrdwy Ffôn: 01244 813316

Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn rhoi cyfle i bobl ifanc feithrin sgiliau newydd – yr un fath â mynd i’r ysgol, y coleg neu brifysgol. Mae cyfleoedd lu ar eich cyfer, megis gweithio gydag anifeiliaid neu helpu pobl eraill – mae rhywbeth at ddant pawb. Mae Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint wedi trefnu Biwro Gwirfoddolwyr sy’n rhoi cyngor ynglyn â gwirfoddoli a’r cyfleoedd sydd ar gael: edrychwch ar wefan CGLlSyFf neu ffoniwch 01352 755008.

Cysylltau defnyddiol eraill yn y maes Addysg:

* Adran Addysg Cyngor Sir y Fflint : 01352 704012 : ar gyfer eich ymholiadau cyffredinol ynglyn ag addysg.

* Os yw disgyblion eraill yn eich bwlio yn yr ysgol, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth a chyngor.

* Cewch restr o ysgolion Sir y Fflint, a’u manylion, trwy glicio yma.

Sgiliau Sylfaenol
Mae dysgu yn bwysig i bawb o bob oedran. Os ydych wedi ymadael â’r ysgol, ond yn cael trafferth darllen, ysgrifennu neu ymdopi â mathemateg, na phryderwch! Mae cymorth ar gael i wella’ch sgiliau sylfaenol – cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Gofal Plant
Os ydych yn gweithio neu’n dilyn cwrs coleg, ac yn pryderu ynglyn â phwy fydd yn gofalu am eich plant pan na fyddwch gartref, ffoniwch swyddogion Gwasanaeth Gwybodaeth Plant Sir y Fflint: 01244 547017. Mae ganddynt wybodaeth ynglyn â darparwyr gofal plant lleol, gwasanaethau hamdden i blant, a swyddi yn ymwneud â phlant.