Adloniant yn Sir y Fflint
Y Tivoli ym Mwcle:
Ydych chi’n rhy ifanc i brofi cerddoriaeth ac awyrgylch clybiau nos? Mae clwb y Tivoli yn darparu’r ateb perffaith gyda nosweithiau Tivoli Nation. Os ydych o dan 17 oed ac yn meddwl tybed beth yn union yw clybio, ewch i www.tivkids.net i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau i rai dan 18 oed.
Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug:
Cliciwch yma i ddarganfod pa ffilmiau sy’n cael eu dangos ar hyn o bryd yn Theatr Clwyd neu cliciwch yma i ddarganfod mwy am ddramâu a pherfformiadau eraill.
Gwibgertio dan do yn Sandycroft, Glannau Dyfrdwy
The Circuit yw’r unig drac gwibgertio dan do yn y DU lle ceir rampiau, twneli ac adrannau dan do ac yn yr awyr agored. Ffoniwch 01244 531652 am fwy o wybodaeth am eu cyfleusterau neu anfonwch e-bost at info@thecircuit.co.uk.