Arian
Diflas iawn yw rhoi trefn ar eich sefyllfa ariannol, ond mae’n bwysig bod eich sefyllfa ariannol dan reolaeth, a’ch bod yn osgoi dyledion.
Os yw cynilo arian o bwys i chi, holwch Undeb Credyd Sir y Fflint yn Nhreffynnon ynglyn â’u cyfrifon cynilo. Eu rhif ffôn yw 01352 715555. Mae’r Undeb Credyd hefyd yn cynnig benthyciadau ariannol diogel, gyda graddfeydd llog rhesymol.
Dyledion
Os ydych yn cael trafferth dal pen llinyn ynghyd, ac mewn dyled, peidiwch â phetruso! Mae swyddogion eich swyddfa Cyngor Ar Bopeth leol yn cynnig cyngor rhad ac am ddim – galwch draw i un o’u swyddfeydd, neu trefnwch apwyntiad trwy ffonio:
Y Fflint Ffôn : 01352 733187
Treffynnon Ffôn : 01352 711262
Yr Wyddgrug Ffôn :01352 753520
Mae Uned Dyledion a Lles wedi ei sefydlu yn swyddfa Cyngor Ar Bopeth Wyddgrug, yn arbenigo mewn cyngor ariannol a gwybodaeth am fudd-daliadau lles.
Budd-daliadau
Cliciwch yma os hoffech ragor o wybodaeth neu gyngor ynglyn â hawlio budd-daliadau.
Defnyddiwch y cysylltau yma i gael gwybodaeth gyffredinol ynglyn â rhoi trefn ar eich sefyllfa ariannol:
* ymwelwch â clic arlein i gael rhagor o wybodaeth a chyngor ynglyn â rheoli’ch arian.