Ieuenctid Sir Fflint

Beth am arian

Mae’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA), prif reolydd ariannol y DU, wedi lansio gwefan wybodaeth newydd a anelir at oedolion ifanc.

Fe’i disgrifir fel "siop un-stop " ar gyfer gwybodaeth am arian a’i nod yw rhoi arweiniad am gael, cynilo a gwario arian.

Dywedodd yr FSA fod ei ymchwil yn dangos nad oedd dwy ran o dair o bobl ifanc yn cynllunio’n ariannol at y dyfodol. Mae ymchwil arall wedi dangos bod 80% o bobl mewn dyled erbyn 21 oed.

“Lluniwyd gwefan ‘Beth Am Arian?’ gyda help oedolion ifanc, yn benodol ar gyfer oedolion ifanc, ac mae’n canolbwyntio ar faterion ariannol y maent hwy eu hunain wedi dweud y mae ganddynt ddiddordeb arbennig ynddynt," meddai Chris Pond, cyfarwyddwr medrusrwydd ariannol yr FSA.

Yn y pen draw bydd ‘Beth Am Arian?’ yn helpu pobl ifanc i fod yn fwy ariannol fedrus, yn awr a phan fyddan nhw yn cynllunio ar gyfer yr hyn maen nhw eisiau yn y dyfodol," ychwanegodd.

What About Money

Ceir gwybodaeth bellach am faterion ariannol yn:

Clic Online

Citizens Advice Bureaux