Ieuenctid Sir Fflint

Canolfan Deuluol Gogledd Sir y Fflint Wledig

Ar ben y bryn ger Ysgol Gronant y mae un o gyfrinachau gorau Gogledd Sir y Fflint Wledig – Canolfan Deuluol Gogledd Sir y Fflint Wledig. Nid yw wedi bod ar agor yn hir ond mae’n tyfu a chyn bo hir gobeithiwn y bydd pawb yn gwybod amdani.

Yn y 6 mis byr y mae wedi bod ar agor, mae Nikki Booth, Rheolwraig y Ganolfan, wedi dod â thîm brwdfrydig at ei gilydd i’w helpu i gynnig dewis amrywiol o ddigwyddiadau, gweithgareddau, cyrsiau a gwasanaethau am ddim neu am gost isel.

Yn ogystal â darparu gofal cyn ysgol neu ar ôl ysgol o ansawdd, mae’r ganolfan yn gwasanaethu yn ystod y gwyliau hefyd! Ar ddydd Sadwrn, cynhelir Clwb Chwarae Mynediad Agored, clwb celf a chlwb gwyliau sy’n cynnwys ystod cyffrous o weithgareddau. Mae’r ganolfan hefyd yn cynnal clinig wythnosol i fabanod, grŵp ti a fi a chydweithfa fwyd sydd wedi ennill gwobrau.

Ceir rhaglen dreigl o gyrsiau a digwyddiadau ac yn aml darperir meithrinfa am ddim: dysgu teuluoedd, sesiynau Iaith a Chwarae, dosbarthiadau celf a chrefft, cwrs iaith arwyddion, dosbarthiadau gosod blodau, clybiau, sgowtiaid, brownis a rainbows… ac mae llawer mwy ar y ffordd.

Peidiwch â cholli dim, cysylltwch â Nikki ar (01745) 859710 neu galwch heibio i ddarganfod mwy!