Ieuenctid Sir Fflint

Ceisiadau newydd yn cael eu cymryd ar gyfer FW2

Bydd cylch newydd o geisiadau ar gyfer cynlluniau cludiant Prosiect FW2 yn dechrau. Bydd nifer gyfyngedig o leoedd ychwanegol ar gael yn fuan.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar bobl ifanc 16-25 oed o ardaloedd gwledig gogledd Sir y Fflint. Mae’n rhoi cymorth arbennig i’w galluogi i gael mynediad at addysg, hyfforddiant a gwaith. Mae cynlluniau FW2 yn cynnwys gwybodaeth a chymorth i bobl ifanc 16-25 oed, mae’n rhoi cyfle iddynt roi cynnig ar ddefnyddio beiciau trydan plygadwy, mae’n darparu nifer gyfyngedig o grantiau hyfforddi cludiant a chynllun benthyca sgwteri.

I gael mwy o wybodaeth a phecyn cais, ffoniwch swyddfa FW2 ar 01745 854881. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.flintshirewheels2.wordpress.com hefyd.

Bydd angen dychwelyd ffurflenni cais wedi’u cwblhau at swyddfa FW2 erbyn dydd Gwener 3 Hydref. Cynhelir cyfweliadau ym mis Tachwedd ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill mae croeso i chi gysylltu â Ged Turner.

Gweithiwr Ieuenctid a Chymuned FW2,
Swyddfa Cymunedau'n Gyntaf, Uned 12B, Canolfan Ymwelwyr y Parlwr Du,
Talacre, Sir y Fflint CH8 9RD

Rhif ffon: 01745 854881
Ffacs: 01745 855299
E-bost: ged.turner@flintshire.gov.uk