Ieuenctid Sir Fflint

Chwaraeon, Hamdden ac Adloniant

Manteisiwch ar y cyfle i gael rhagor o wybodaeth ynglyn â’r cyfleoedd chwaraeon a hamdden yn eich bro.

Mae’r Cyfeirlyfr Cymuned ar wefan Cyngor Sir y Fflint yn cynnwys manylion grwpiau, cymdeithasau, clybiau a sefydliadau eraill yn y sir, megis clybiau garddio, chwaraeon, garddio a physgota.

Cewch wybodaeth hefyd gan swyddogion Gwasanaethau Hamdden Cyngor Sir y Fflint ynglyn â lle y medrwch fanteisio ar chwaraeon ffurfiol, a manylion yr hyn sy’n digwydd yn y sir. Ffoniwch yr Adran Datblygu Chwaraeon: 01352 702463 neu’r Adran Datblygu Chwarae: 01352 702456.

Clybiau Ieuenctid

Y Clwb Ieuenctid yw’r lle delfrydol i gyfarfod pobl ifanc eraill mewn lle croesawgar a diogel. Cewch gyfle i ennill ffrindiau ac ymuno â llawer o weithgareddau gwahanol. Defnyddiwch y cyswllt hwn i gael rhestr o’r clybiau ieuenctid, ac oriau agor y clwb agosaf atoch.

Fforymau

Dyma gyfrwng gwych i’r rhai sydd am fod â rhan yn yr hyn sy’n digwydd yn eu cymuned ac i leisio barn wrth y bobl briodol. Mae fforymau’n cynnwys carfan o bobl sy’n dod at ei gilydd i drafod y pynciau llosg sydd o bwys iddynt hwy. Mae adran newyddion y wefan hon yn cynnwys dyddiadau’r fforymau a manylion digwyddiadau eraill yn eich bro. Ffoniwch Wasanaeth Ieuenctid a Chymuned Sir y Fflint ar 01352 704032 i holi ynghylch grwpiau a fforymau ieuenctid yn eich bro.

Cysylltau eraill yn y maes Chwaraeon , Hamdden ac Adloniant:

* Cliciwch yma i weld rhaglen ffilmiau Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, neu ffoniwch swyddfa docynnau’r Theatr: 0845 330 3565

* Edrychwch ar wefan Cyngor Chwaraeon Cymru, y corff cenedlaethol sy’n datblygu a hybu hamdden a chwaraeon yng Nghymru.