Cludo
I gael gwybod amseroedd bysus a threnau yn Sir y Fflint, gallwch fynd i Travel Web Sir y Fflint neu ddefnyddio’r Wefan Gopher i gael cynllun teithio personol i chi, sy’n dangos sut i fynd o’ch cartref i’r gwaith neu i gyfweliad. Cewch hefyd fap YN DDI-DÂL o’ch ardal chi, yn dangos yr holl rwydwaith bws a thrên yn lleol. Gallwch ffonio llinell gymorth Gopher am fwy o wybodaeth ar 0870 608 6070.
Os byddwch eisiau mwy o wybodaeth am wasanaethau bws a thrên yn Sir y Fflint, gallwch ffonio Adran Priffyrdd a Chludiant y cyngor ar 01352 704035.
Benthyg Sgwter!
Os ydych yn bwy ym Mostyn, Ffynnongroyw, Penyffordd, Talacre neu Gronant, yn 16-25 mlwydd oed ac yn ei chael yn anodd iawn i deithio i’r gwaith, addysg neu hyfforddiant efallai gall FW2 (Flintshire Wheels To) roi benthyg sgwter i chi a chynnig cymorth arall hefyd.
I gael mwy o wybodaeth neu weld sut i wneud cais, galwch FW2 ar 01745 854881 neu ewch i wefan FW2.
Teithio ar y bws am hanner pris – i bobl 16-18 oed
Os ydych chi rhwng 16 ac 18 oed ac yn byw yn Sir y Fflint, gallwch wneud cais i’r cynllun cerdyn teithio newydd sy’n caniatáu i chi deithio am hanner pris ar bron iawn unrhyw fws yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam.
I lawr lwytho ffurflen neu gael mwy o wybodaeth, ewch i www.16218.org.