Cyfleusterau a Gwasanaethau
Mae gennych yr hawl i fanteisio ar y cyfleusterau a’r gwasanaethau a drefnir ar eich cyfer.
Mae nifer o wasanaethau a chyfleusterau ar gael sy’n golygu bod byw yn Sir y Fflint yn hawdd a phleserus. Mae nifer ohonynt wedi eu trefnu’n benodol ar gyfer pobl ifanc, felly mae’n bwysig eich bod yn gyfarwydd â hwy fel y gallwch eu defnyddio pan fo angen.
Gwasanaethau
Mae holl wasanaethau Cyngor Sir y Fflint wedi eu rhestru ar dudalennau ‘A – Y o Wasanaethau’r Cyngor’ ar wefan yr Awdurdod. Yno hefyd cewch fanylion y sawl y gallwch siarad ag o/â hi pan fydd gennych ymholiad neu os hoffech awgrymu rhywbeth.
Cyfleusterau
Os hoffech ragor o wybodaeth ynglyn â grwpiau, cymdeithasau, clybiau, sefydliadau a chyfleusterau yn eich ardal edrychwch ar y Cyfeirlyfr Cymuned ar wefan Cyngor Sir y Fflint. Beth bynnag yw eich diddordeb – boed chwaraeon, cerdded, garddio neu bysgota – mae rhywbeth yn siwr o dynnu’ch sylw ar y wefan.
Cofiwch hefyd bod modd ichi anfon e-bost atom ynghylch unrhyw bwnc neu fater, a byddwn yn cyfeirio’ch problem, eich cwestiwn neu’ch awgrymiad at rywun all eich helpu a rhoi’r wybodaeth briodol ichi.
Beth bynnag yw eich problem, mae rhywun a all eich helpu i’w ddatrys!