Ieuenctid Sir Fflint

Cyfrifydd

Caffi Rhyngrwyd Netcafe
Mae Netcafe yn Shotton ar Chester Road West. Mae ganddo nifer o gyfrifiaduron y gellir eu defnyddio i edrych ar y rhyngrwyd ac i wneud gwaith am gost isel. Mae’r caffi hefyd yn gweini ystod lawn o fyrbrydau poeth, cacennau a diodydd oer a phoeth. Mae cyrsiau cyfrifiadurol ar gael a gellir hurio ystafell yno. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth http://www.deeside.ac.uk/newdc/facilities-netcafe.php
Oriau agor: 10.00am - 6.00pm (Llun - Iau), 10.00am - 4.00pm (Gwe a Sad)
Cyfeiriad: 84 Stryd Fawr, Chester Road West. Ffôn: 01244 823297
E-bost: NETCAFEN@deeside.ac.uk

Cyfrifiaduron mewn llyfrgelloedd
Mae cyfrifiaduron ar gael i’w defnyddio gan y cyhoedd am ddim yn y mwyafrif o lyfrgelloedd yn Sir y Fflint. Gellir neilltuo cyfrifiaduron am sesiynau hanner awr a gellir ymestyn yr amser hwnnw os nad oes unrhyw un arall yn disgwyl i’w defnyddio. Gallwch ddefnyddio cyfrifiaduron am ddim, ond codir tâl bach am argraffu. Maent ar gael i oedolion a phlant (gyda chaniatâd rhiant). Os nad ydych yn aelod o Lyfrgell Sir y Fflint, bydd angen i chi ddarparu prawf o’ch hunaniaeth a’ch cyfeiriad cyn y gallwch ddefnyddio’r cyfrifiaduron.

Yn ogystal â rhaglen prosesu geiriau a rhaglenni swyddfa arferol eraill, gellir defnyddio cyfrifiaduron i gael mynediad at y rhyngrwyd, anfon negeseuon e-bost ac archwilio CD-ROM. Mae gan lyfrgelloedd mwy beiriannau sganio ar gael i’r cyhoedd hefyd. Mae staff y llyfrgell wedi cael hyfforddiant TG rhag ofn y bydd angen unrhyw help arnoch tra’r ydych yno. Bydd y staff hefyd yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am gyrsiau hyfforddi cyfrifiadurol.

Os oes gennych anghenion arbennig wrth ddefnyddio cyfrifiaduron, rhowch wybod i ni ac fe’ch helpwn.

Gallwch hefyd ddod â gliniadur i’r llyfrgell os hoffech gael lle tawel i weithio.

Gwasanaeth Ieuenctid
Mae nifer o glybiau ieuenctid yn rhoi mynediad at gyfrifiaduron a’r rhyngrwyd yn ystod oriau’r Gwasanaeth Ieuenctid. Holwch weithwyr eich clwb ieuenctid lleol.