Ieuenctid Sir Fflint

Cyfweliad gyda gwirfddolwraig ifanc ar ChildLine

Beth wnaeth eich ysgogi chi i ddod yn gwnselydd ChildLine?
Pan oeddwn i’n iau, fe es i drwy gyfnod o gael fy mwlio am gyfnod hir yn yr ysgol. Roeddwn i’n meddwl am cyflawni hunanladdiad, yna rhoddodd rhywun rif ChildLine i mi 0800 1111.

Pan gychwynnais yn y 6ed dosbarth, tyfodd fy ymwybyddiaeth a’m gwybodaeth ynghylch y materion sy’n wynebu pobl ifanc heddiw a chymerais ddiddordeb mewn gwaith ieuenctid fel gyrfa. Yr oeddwn eisiau gwybod sut i gefnogi a grymuso pobl ifanc sy’n mynd drwy ‘bethau’ yn eu bywydau heddiw.

Siaradais gyda llawer o bobl a oedd yn gysylltiedig â ChildLine (gweithwyr ysgol, codwyr arian a chwnselwyr) a ffeindiais allan eu bod bellach yn hyfforddi pobl ifanc 16 oed, felly fe wenes i gais. Hyfforddi fel cwnselydd ChildLine oedd y cam nesaf i mi - ac nid ydw i wedi edrych yn ôl ers hynny.

Ers pryd ydych chi wedi bod yn gweithio ar linell gymorth ChildLine?
Cefais fy hyfforddi ym mis Ionawr 2005 ac rwyf wedi bod yn ateb galwadau ers y Pasg 2005.

Pa fath o hyfforddiant dderbynioch chi? Faint o amser a gymerodd hyn?
Fe wnaith y hyfforddi Cwnsela ChildLine bara am 10-wythnos – nosweithiau Mawrth 6.30 – 9.30pm wrth i mi wneud fy arholiadau AS.

A oedd yn waith anodd?
Yr oedd yn heriol iawn, a dysgais lawer amdanaf fy hun wrth i’r wythnosau fynd heibio.

Pa fath o alwadau ydych chi’n eu cymryd ar y llinell gymorth?
Rwy’n ymdrin â chymysgedd o alwadau. Gallwch siarad â ChildLine am unrhyw beth – nid yw unrhyw broblem yn rhy fawr neu’n rhy fach. Os ydych chi’n teimlo’n bryderus, neu os oes ofn arnoch neu os ydych eisiau siarad â rhywun, gallwch alw ChildLine. Rhai o’r pethau y mae pobl yn ffonio yn eu cylch yw teimlo’n unig neu nad oes unrhyw un yn eu caru, pryderon am eu dyfodol, problemau yn ymwneud â’r ysgol, bwlio, cyffuriau, beichiogrwydd, HIV ac AIDS, cam-drin corfforol a rhywiol, rhedeg i ffwrdd a phryderon yn ymwneud â rhieni, brodyr, chwiorydd a ffrindiau, a throseddau yn eu herbyn. Beth bynnag yr ydych yn poeni yn ei gylch, yn broblem fach neu fawr, rydym yma i gynnig cymorth a chyngor.

Beth sy’n digwydd pan fydd pobl yn galw ChildLine?
Pan fyddwch yn ffonio ChildLine, byddwch yn gallu siarad â rhywun sy’n poeni am eich problemau. Fel fi, mae’r cwnselwyr i gyd wedi cael eu hyfforddi – byddant yn gwrando arnoch ac yn ceisio eich helpu. Os ydych chi’n bryderus neu os oes ofn arnoch, mae hynny’n iawn. Gallwch ddweud wrthyn nhw. Eu gwaith yw gwrando arnoch chi ac weithiau eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun a all eich helpu.

Gall siarad allan am broblemau neu siarad am eich teimladau fod yn anodd iawn, ond dyma’r peth iawn i’w wneud. Meddyliwch gymaint yn well y byddwch yn teimlo os gallwch siarad am y peth gyda rhywun sy’n deall.

Gallwn awgrymu pobl eraill a allai helpu a byddwn yn disgrifio’r hyn fydd yn debygol o ddigwydd os byddwch yn penderfynu cysylltu â nhw. Os oes gormod o ofn arnoch neu os ydych yn teimlo’n rhy swil i siarad â rhywun arall a allai eich helpu yna, gyda’ch caniatâd, bydd ChildLine yn siarad â phobl eraill ar eich rhan.

Mae galwadau i ChildLine yn gyfrinachol - gallwch siarad am beth bynnag yr ydych yn dymuno ac ni fyddwn yn dweud wrth unrhyw un arall, oni bai eich bod eisiau i ni wneud hynny. Ni fydd cwnselwyr ChildLine yn gweithredu ond os ydynt yn teimlo ei fod yn argyfwng.

Beth os nad wyf yn gallu cael ateb oddi wrth ChildLine?
Rydym yn derbyn llawer o alwadau gan bobl y mae angen help arnynt, ac weithiau ni fyddant yn gallu cael ateb y tro cyntaf y byddant yn galw. Os na allant gael ateb, fy neges i fyddai rhoi cynnig arall arni a byddwn yn ateb yr alwad cyn gynted ag y gallwn.

A fydd galwadau i ChildLine i’w gweld ar y bil ffôn?
Na fyddant. Gan fod ChildLine yn rhif 0800, mae galwadau am ddim ac nid ydynt yn cael eu dangos ar fil ffôn BT neu gebl. Mae galwadau i ChildLine ar 0800 1111 am ddim ar hyn o bryd o’r holl rwydweithiau presennol - 3, BT Mobile, Fresh, O2, Orange, T Mobile, Virgin, Vodafone. Rydym wedi cael gwybod na fydd galwadau yn ymddangos ar unrhyw un o’r biliau hyn.

A ellir galw ChildLine am ddim o ffonau symudol?

Gellir. Mae galwadau i ChildLine ar 0800 1111 am ddim ar hyn o bryd o’r holl rwydweithiau sy’n bodoli, yn cynnwys 3, BT Mobile, Fresh, O2, Orange, T Mobile, Virgin, a Vodafone.

Jenny, 20 oed


ChildLine