Cystadleuaeth - Raw Deal or Truth Told?
Cystadleuaeth a drefnir gan Dŷ’r Cyffredin a Chymdeithas Hansard yw ’Raw Deal or Truth Told? Young people in the media’. Maent yn chwilio am bobl ifanc 11 – 16 oed i roi eu barn am y ffordd y teimlant y maent yn cael eu trin gan y cyfryngau. Gallwch gyflwyno’ch ceisiadau mewn amryw o gyfryngau, gan gynnwys erthygl, cyflwyniad, recordiad sain, fideo, cyflwyniad neu gyfweliad.
Cyflwynir pob cais i Bwyllgor Cyfathrebu’r Arglwyddi. Gwahoddir yr enillwyr i drafod eu syniadau gyda’r Arglwydd Lefarydd a mynd ar daith o amgylch Tŷ’r Cyffredin. Bydd y trefnwyr hefyd yn cynhyrchu adroddiad o’r holl geisiadau am farn y bobl ifanc.
Mae pobl ifanc Sir y Fflint wedi nodi’r ddelwedd negyddol a roddir i bobl ifanc yn y wasg. Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 5pm ddydd Gwener 5 Mehefin, 2009. Am fwy o wybodaeth am y gystadleuaeth, edrychwch ar y dudalen we hon: http://www.parliament.uk/holcompetition/