Ddraig Y Nos
Mae’r Tîm Pobl Ifanc sy’n camddefnyddio sylweddau yn rhoi cymorth a chefnogaeth i bobl ifanc sy’n cael problemau gydag alcohol a chyffuriau. Cynigir cymorth ar sail un i un, ochr yn ochr â gwaith atal ac addysgu am y problemau potensial. Cyflwynir addysg am alcohol a chyffuriau mewn ysgolion, clybiau ieuenctid, tafarndai, clybiau ac allan ar y strydoedd. Mae’r gwaith ar y strydoedd yn defnyddio’r bws allgymorth newydd, Ddraig Y Nos, sy’n gerbyd newydd sbon a brynwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae’r bws yn cynnwys nifer o adnoddau ac yn cynnig gweithgareddau y gall pobl ifanc eu defnyddio yn greadigol tra’n dysgu am beryglon alcohol a chyffuriau. Mae gennym ddeciau cerdd, offer gwneud fideos, gorsafoedd iPod, cyfrifiaduron a pheiriant DVD gyda sgrîn plasma. Hefyd ceir y wybodaeth ddiweddaraf drwy gyfrwng taflenni a phosteri yn ogystal â gemau addysgol a DVDau. Os ydych yn ein gweld, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am alcohol a chyffuriau, mae croeso i chi ddod atom i gael gwybodaeth.