Dewch draw i fod yn rhan o’r ateb - Cyfarfodydd y Bartneriaeth Pobl Ifanc 2009
Grŵp o bobl sy’n ceisio gwneud gwasanaethau’n well i bobl ifanc Sir y Fflint yw’r Bartneriaeth Pobl Ifanc (PPI). Mae’r PPI yn estyn gwahoddiad i bobl ifanc o bob rhan o Sir y Fflint ddod i’r holl gyfarfodydd - mae gennych hawl i fod yn rhan o’r penderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi!
Dyma rai o’r pynciau y mae’r PPI wedi’u trafod yn y gorffennol:
• Gwahaniaethu ar sail oed
• Dweud eich dweud
• Trafnidiaeth
• Ymwybyddiaeth o Gyffuriau ac Alcohol
• Ymddygiad gwrthgymdeithasol
• Gwybodaeth i bobl ifanc
• Clybiau ieuenctid
• Yr Iaith Gymraeg
• Anabledd
• Cynllun Plant a Phobl Ifanc 2008-11
Er bod rhyw fath o thema i’r rhan fwyaf o’r cyfarfodydd maent i gyd yn canolbwyntio ar gael hyd i atebion i broblemau. Mae oedolion a phobl ifanc yn cydweithio i gynnig syniadau i ddatrys problem. Ar ôl y cyfarfodydd, bydd y PPI yn gweithio gyda phobl ifanc a gwasanaethau eraill i roi rhai o’r awgrymiadau ar waith.
Dywedodd pobl ifanc fod y darlun ohonynt y mae’r wasg yn ei gyflwyno’n negyddol iawn.
Trefnodd y PPI hyfforddiant i helpu grwpiau i gyflwyno storïau positif amdanyn nhw eu hunain y wasg.
Dywedodd pobl ifanc fod angen mwy o wybodaeth arnyt.
Mae’r PPI wedi bod yn diweddaru gwefan Fflintyrifanc yn amlach, ac wedi sefydlu gwasanaeth neges destun.
Mae’r bobl ifanc sydd wedi dod i’r cyfarfodydd yn y gorffennol wedi mwynhau’r profiad ac yn dweud eu bod yn ffordd dda o gael lleisio barn. Mae cyfle hefyd i chi godi a thrafod materion eraill sy’n bwysig i chi. Os oes unrhyw beth yr hoffech i wasanaethau yn Sir y Fflint ei wneud, dewch draw i ddweud wrthym a, gyda’n gilydd, efallai y cawn hyd i’r ateb!
Dewch draw…
Os ydych chi’n berson ifanc 11-25 oed, ac os hoffech ddod draw i’n helpu i gael hyd i atebion i broblemau sy’n wynebu pobl ifanc eraill, cysylltwch â ni. Gallwn drefnu crèche a gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os cawn wybod ymlaen llaw. Gallwn hyd yn oed dalu am gost cludiant i chi os rowch chi dderbynneb i ni.
Mae croeso i grwpiau bach o sefydliadau a chlybiau ddod draw atom!
Emma Jones
Ffôn: 01352 704147
Ebost: emma_jones@flintshire.gov.uk
Dyddiadau cyfarfodydd PPI yn 2009
19 Mawrth 2009 – 6pm – 8pm. Lleoliad i’w gadarnhau
23 Gorffennaf 2009 - 6pm – 8pm. Lleoliad i’w gadarnhau
19 Tachwedd 2009 - 6pm – 8pm. Lleoliad i’w gadarnhau
Sylwch: Cyfarfodydd i aelodau’r PPI a phobl ifanc YN UNIG yw’r rhain. Mae oedolion yn cael dod yn gwmni i bobl ifanc os oes angen cymorth arnynt. Fel arall, gofynnwn i oedolion beidio â dod os na chânt wahoddiad.