Eich hawliau
Mae pob person ifanc yng Nghymru â’r hawl cyfreithiol i rai pethau - manteisiwch ar y cyfle i wybod beth ydynt a sut y medrwch eu cael.
‘Hawl’ yw rhywbeth yr ydych â hawl cyfreithiol i’w gael. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi pennu rhestr o’r hyn y mae plant Cymru â hawl i’w cael, a hawliau mwy penodol i bobl ifanc 11-25 oed.
Mae gan blant Cymru'r hawl i’r hyn a ganlyn:
* y cychwyn gorau i’w bywyd;
* amser i chwarae a mwynhau eu hunain;
* y cyfle i ragori, hyd yn oed os nad oes gennych lawer o arian;
* iechyd o ran y corff a’r meddwl;
* eu gwarchod rhag niwed, a’u trin yn dda a gyda pharch;
* cartref a chymdogaeth ddiogel i fyw;
* mathau o ddysgu priodol;
* i fynegi barn, waeth pwy ydynt.
Mae gan bobl ifanc 11 - 25 oed hawliau ychwanegol fel a ganlyn:
1. Addysg, hyfforddiant a phrofiad gwaith yn unol â’u dyheadau.
2. Hyfforddiant ‘sgiliau sylfaenol’ a fydd yn rhoi cyfleoedd ichi ar gyfer y dyfodol.
3. Cyfleoedd eang ac amrywiol ichi fod â rhan mewn gweithgareddau.
4. Y cyfle i fanteisio ar gyfleusterau a gweithgareddau a drefnwyd ar eich cyfer.
5. Cyngor yn ymwneud ag iechyd, tai a budd-daliadau.
6. Cyfleoedd hamdden a chwaraeon mewn amgylchedd diogel, gyda’r cyfle i gymdeithasu.
7. Cyngor ynglyn â gyrfaoedd, wyneb yn wyneb, ar sail eich diddordebau a’ch gallu.
8. Cymorth a chyngor cyfrinachol ynglyn â’r hyn sydd o bwys i chi.
9. Profiadau yn y maes chwaraeon, y celfyddydau, cerddoriaeth a gweithgareddau awyr agored sy’n fodd ichi ddatblygu syniadau a lledu’ch gorwelion.
10. Y cyfle ichi leisio barn.
Cewch ragor o wybodaeth ynglyn â’ch hawliau trwy edrych ar wefan Clic Ar-lein.
