Ieuenctid Sir Fflint

Eich Sylwadau

Mae gennych yr hawl i leisio barn.

NYAS
Os ydych mewn sefyllfa lle gwneir penderfyniadau am eich bywyd ac os hoffech i oedolyn eich helpu i fynegi eich barn, yna gallai’r Gwasanaeth Adfocatiaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) helpu. Elusen i blant ydyw ac mae’n darparu cynrychiolaeth a chyngor, gan sicrhau bod llais plant a phobl ifanc yn cael ei glywed ym mhob mater sy’n effeithio arnynt.

Gallent eich helpu i leisio eich barn os ydych yn mynd i gael eich eithrio o’r ysgol neu os ydych chi eisiau cwyno am eich gweithiwr cymdeithasol, er enghraifft. Medrwch alw eu llinell gymorth ar 0800 61 61 01 i gael mwy o wybodaeth am sut y gallant eich helpu.

Fforymau Ieuenctid
Ffordd wych o gymryd rhan yn yr hyn sy’n digwydd yn eich cymuned a chael y bobl sydd yn cyfrif i glywed eich barn ydi ymuno â fforwm, sef grŵp o bobl sy’n cwrdd i drafod materion sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae gan Sir y Fflint Fforwm Ieuenctid Sirol i bobl 11-25 oed o’r enw FYF sy’n cyfarfod yn rheolaidd i siarad am faterion sy’n effeithio pobl ifanc sy’n byw yn y sir. Mae croeso i bawb ymuno, felly os hoffech fwy o wybodaeth medrwch ffonio’r Gweithiwr Fforwm Ieuenctid ar 01352 771232 neu lawrlwytho’r Daflen FYF.