Fforwm Leuenctid Sir Y Fflint
Datganiad Cenhadaeth
Ennill hyder i fynd i’r afael â phroblemau, lleisio barn, gan wneud ffrindiau a chael hwyl ar yr un pryd. Mae gennym bopeth sydd ei eisiau arnoch!
“Dod at ein gilydd i wneud gwahaniaeth.”
Beth ydym wedi’i wneud?
• Bu i ni drefnu Cynhadledd Ieuenctid gyda Fforwm Ieuenctid Wrecsam yn 2007. Aethpwyd â phob un o’r materion a godwyd i Bartneriaeth Pobl Ifanc Sir y Fflint er mwyn gwneud rhywbeth yn eu cylch.
• Rydym yn mynd ar ymweliadau preswyl i gynllunio cynadleddau a thrafod materion a godir gan bobl ifanc yn y gymuned.
• Rydym wedi gwneud DVD i hyrwyddo Ymestyn Hawliau – Bydd yn cael ei dangos yn ysgolion Sir y Fflint, felly cadwch eich llygaid ar agor.
• Rydym yn mynd i gyfarfodydd Partneriaeth Pobl Ifanc i helpu pobl ifanc i leisio eu barn a gwneud newidiadau.
• Rydym yn gweithio ar lawer o wahanol brosiectau fel prosiect drymio a ‘Castaway’.
• Mae gennym gynrychiolaeth lawn ar y Ddraig Ffynci.
• Rydym wedi bod yn mynd i’r afael â materion gyda’r Cyfarwyddwr Addysg dros dro.
• Rydym yn cynnal ymgynghoriadau byr gyda phobl ifanc eraill yn Sir y Fflint trwy’r Clybiau Ieuenctid.
• Mynd allan a chael hwyl – pizza, sglefrio iâ.
Yn y dyfodol rydym yn bwriadu:
• Parhau i gynrychioli Pobl Ifanc Sir y Fflint.
• Gweithio tuag at y Wobr Cyflawniad Ieuenctid.
• Darganfod ffyrdd newydd o leisio ein barn.
Os oes gennych ddiddordeb yn y gwaith yr ydym wedi’i wneud ac am ddarganfod mwy, ffoniwch ni neu dewch draw i weld drosoch eich hun.
Mae Fforwm Ieuenctid Sir y Fflint yn cyfarfod bob dydd Llun yng Nghanolfan Glanrafon, Yr Wyddgrug 7 – 9pm. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Ali neu Darren ar 07824694779.
Ffaith y mis…
Rydym yn hoffi cael cymaint o hwyl ag sy’n bosibl!
O.N. Cynhelir y Gynhadledd Ieuenctid Sirol nesaf ddydd Sadwrn 29 Mawrth yng Ngholeg Garddwriaethol Cymru. Dewch draw i drafod materion sy’n effeithio arnoch.
Fforwm Leuenctid Sir Y Fflint
(Ionawr 2006)