Gwasanaeth Eiriolaeth ‘Si ar y Stryd’
Mae’r Gwasanaeth Eiriolaeth ‘Si ar y Stryd’ yn wasanaeth NEWYDD sy’n gwrando ar blant a phobl ifanc ac yn eu helpu i fynegi eu barn.
Beth yw Eiriolaeth?
Eiriolaeth yw pan fydd rhywun arall (Eiriolwr) yn eich helpu i leisio’ch barn - i helpu cywiro rhywbeth sydd o’i le. Gall hyn gynnwys pethau fel gwneud cwyn neu fynegi eich ochr chi o’r stori mewn sefyllfaoedd lle nad ydych chi’n teimlo y gallwch chi wneud hynny. Gall hyn fod yn yr ysgol, adref, yn y llys, gyda gwasanaeth neu yn unrhyw le arall.
Eiriolwr yw rhyw un sydd:
• yn eich cefnogi
• yn gwrando arnoch chi
• yn eich grymuso
• yn dadwneud dryswch
• yn rhoi gwybodaeth i chi
• yn rhoi help ymarferol i chi
• yn trafod ar eich rhan
• ddim yn eich barnu
Mae’r gwasanaeth ar gael i unrhyw blentyn a pherson ifanc rhwng 0 a 25 oed sy’n byw yn Sir Y Fflint.
Os hoffech ddysgu mwy, neu i gael help Eiriolwr, gallwch gysylltu â’r gwasanaeth trwy ymweld â’r Siop Wybodaeth, drwy ffonio neu drwy anfon neges e-bost.
Gwasanaeth Eiriolaeth Si ar y Stryd
Siop Wybodaeth Ieuenctid
79 Stryd Fawr
Treffynnon
Sir Y Fflint
CH8 7TF
Ffôn: 01352 717817
Ffôn Symudol: 07786171481
E-bost: wordonthestreet@flintshire.gov.uk
Gall wasanaethau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc gyfeirio at ‘Si ar Led’ trwy gysylltu â Sally Fitzhenry, Cyd-lynydd y Gwasanaeth, yn y cyfeiriad ac ar y rhifau ffôn uchod.