Ieuenctid Sir Fflint

Gwefan newydd ar-lein rŵan i wirfoddolwyr

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych i gyfarfod â phobl o’r newydd, cael profiad gwaith a datblygu sgiliau newydd.

Gallwch ddysgu rhagor am y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael i bobl ifanc yn Sir y Fflint drwy ymweld â gwefan newydd y Flintshire Funky Vols, sydd wedi’i dylunio a’i chreu gan dîm o wirfoddolwyr ifanc.

Bydd y wefan yn cael ei lansio’n swyddogol mewn digwyddiad ym mis Hydref, ond gallwch ymweld â hi rŵan i chwilio am gyfleoedd i wirfoddoli yn Sir y Fflint.