Gweithdai drama FUSE
Mae Clwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug yn darparu gweithdy drama wythnosol o’r enw FUSE i bobl ifanc ag anghenion addysgol ychwanegol. Mae FUSE yn cynnwys pobl ifanc mewn amrywiaeth o weithgareddau perfformio ar lefel briodol, gan arwain at berfformiadau o flaen ystod eang o gynulleidfaoedd.
Mae grŵp FUSE yn cwrdd bob nos Lun 6.30-8.00 yn Clwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug. Mae gostyngiad o 50% ar gael i bobl ifanc sy’n mynd i ysgolion neu’n byw yn Sir y Fflint. Ffoniwch Jane Meakin ar 01352 701576 am fwy o wybodaeth neu i neilltuo lle ffoniwch y swyddfa docynnau ar 0845 330 3565.