Gweithgareddau Ysgol y Goedwig i blant a phobl ifanc dros yr haf
Bydd Ymddiriedolaeth Plas Derw yn cynnal gweithgareddau Ysgol y Goedwig i dri grŵp oedran gwahanol dros wyliau’r haf: 10-13 oed; 14-16 oed; ac 17-19 oed - AM DDIM.
Cynhelir y gweithgareddau bob dydd Mercher a dydd Iau trwy gydol y gwyliau haf yng Ngholeg Garddwriaethol Cymru, Llaneurgain rhwng 10am a 2.30pm.
Bydd cyfle i bobl ifanc gael llawer o hwyl, bod yn greadigol a dysgu sgiliau newydd megis cynnau a rheoli tân a defnyddio offer yn ddiogel, coginio ar dân agored, adeiladu llochesau a dysgu am goetiroedd a’n hamgylchedd.
Hefyd, mae Ymddiriedolaeth Plas Derw wedi trefnu ‘Clwb Plant yn y Coed’ (i blant 7 – 10 oed) a gynhelir bob dydd Mawrth ar y dyddiadau canlynol: 29 Gorffennaf, 5 a 12 Awst rhwng 9.30 am a 3.30 pm. Fodd bynnag, mae’r cynllun hwn yn costio £20 y dydd i bob plentyn.
Am fwy o wybodaeth a/neu i neilltuo lle ar unrhyw un o’r cynlluniau, ffoniwch Pippa (Cydlynydd Dysgu yn yr Awyr Agored) ar 01352 841047 neu 07881 700952 neu anfonwch e-bost at: forestschool@googlemail.com Neilltuwch le cyn gynted ag sy’n bosibl gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig!
Edrychwch ar y posteri: