Gwirfoddoli yn Sir y Fflint
Mae Gwirfoddoli yn ffordd ardderchog o gyfarfod pobl newydd, cael profiad gwaith a datblygu sgiliau newydd.
Gallwch gael gwybod mwy am y cyfleoedd i wirfoddoli sydd ar gael i bobl ifanc yn Sir y Fflint drwy ymweld â’r wefan Youth Volunteering Flintshire, sydd wedi cael ei chreu gan dîm o wirfoddolwyr ifanc.
Mae gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC) Fiwro Gwirfoddolwyr sy’n gallu rhoi cyngor i chi am gyfleoedd sydd ar gael i wirfoddoli’n lleol. Beth am fynd i wefan yr FLVC neu eu ffonio ar 01352 744000 i gael gwybod mwy.