Ieuenctid Sir Fflint

Heddlu Goggledd Cymru Cadetiad Gwirfoddol yr Heddlu

Byddai ymuno â Chadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd ac yn gyfle I gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau cyffrous a heriol ac i ddatblygu sgiliau gwerthfawr. Dyma gyfle hefyd i chi wneud gwahaniaeth go iawn yn lleol drwy helpu i leihau trosedd.

Mae Cynllun Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Gogledd Cymru yn agored i unrhyw un rhwng 16 a 18 mlwydd oed*. Rydym yn recriwtio ar hyn o bryd. Mae’r Tîm Cadetiaid yn cynnwys swyddogion heddlu, staff yr heddlu, swyddogion cefnogi cymuned yr heddlu, swyddogion gwirfoddol a gwirfoddolwyr, fydd yn cymryd rhan mewn goruchwylio a hyfforddi cadetiaid yn ychwanegol at gyflawni eu dyletswyddau arferol.

Mae 3 rhanbarth yng Ngogledd Cymru:
Y Rhanbarth Dwyreiniol: Sir y Fflint a Wrecsam
Y Rhanbarth Gorllewinol: Gwynedd ac Ynys Môn;
Y Rhanbarth Canolog: Conwy a Sir Ddinbych.

Byddwn yn recriwtio 20 Cadét o bob Rhanbarth i gychwyn. Ar y dechrau, bydd un Uned CGH ym mhob Rhanbarth, gyda rhagor o Unedau'n cael eu sefydlu wedyn ar draws Gogledd Cymru. Mae pob ardal ym mhob Rhanbarth yn cael eu hannog i sefydlu Uned CGH.

Ni fyddwch yn cael eich rhoi mewn perygl gan y bydd yr holl weithgareddau y bydd Cadetiaid yn cymryd rhan ynddynt yn cael eu Hasesu am Risg er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gweithdrefnau a pholisïau Iechyd a Diogelwch ac Amddiffyn Plant.

diddordeb?
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rhingyll Melanie Brace, Cydlynydd Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Gogledd Cymru ar 0845 6071001 neu anfonwch e-bost at cadlanciau@nthwales.pnn.police.uk Ewch i’n gwefan i weld yr wybodaeth ddiweddaraf www.heddlu-gogledd-cymru.police.uk

Llyfryn