Helo
Helo,
Ni yw’r grŵp Siarad dros Blant mewn Gofal. Rydym yn cyfarfod bob pythefnos gydag aelodau o staff o’r Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol i drafod sut i wella pethau i blant mewn gofal – plant fel ni!
Hoffem ddweud ychydig bach mwy wrthych am bwy ydym ni, beth yr ydym wedi’i gyflawni a beth ydym wedi’i gynllunio ar gyfer 2008 fel y gallwch gymryd rhan!
Dyma restr o aelodau’r grŵp:
Cody
Dean
Jake
Kate
Kirsty
Tom
Rydym i gyd rhwng 11 ac 218 oed. Rydym yn gweithio gyda 6 aelod o staff - Alison, Ian, Tracy, Cathie, Ffion ac Abigail.
Ein nod yw helpu pobl ifanc mewn gofal i gymryd rhan a rhoi cyfle i bawb roi eu barn. Trwy ddweud wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol beth yw ein barn, gallwn eu helpu i wybod beth sydd ei eisiau arnom yn y dyfodol.
Mae rhai o aelodau hŷn y Grŵp S.C.C. wedi sefydlu grŵp arall tebyg ers ychydig, i rai sy’n Gadael Gofal. Ar ôl trafod gryn dipyn, mae’r grŵp hwn wedi galw eu hunain yn Rhwydwaith Cefnogi Gadael Gofal (Care Leavers Support Network neu C.L.S.N.).
Bydd y C.L.S.N yn cyfarfod bob pythefnos efo staff o Wasanaethau Plant. Dim ond ers Ionawr 2008 mae’r grŵp wedi bod yn rhedeg, felly mae’n dal i gynyddu nifer yr aelodau. Mae dau le gwag ar y grŵp ar hyn o bryd, ac rydym ni’n gobeithio eu llenwi mor fuan ag y gallwn. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch efo Alison ar 01352 702655.
Aelodau’r grŵp Rhwydwaith Cefnogi Gadael Gofal hwn ydi:
Hayley
Leigh
Tom
Byddant yn gweithio efo 4 aelod o staff Jo, Alison, Tracy a Caroline.
Beth mae’r grŵp wedi’i gyflawni?
Yn 2007, bu i ni ennill gwobr ‘Rhagoriaeth Cymru’ am ein gwaith caled!
Rydym wedi cynhyrchu pecynnau croeso i blant sy’n dod i’r system gofal. Yn y pecynnau hyn, mae deunyddiau ymolchi, taflenni gwybodaeth a neges o gefnogaeth oddi wrth y grŵp. Byddwn yn rhoi mwy o becynnau at ei gilydd yn ystod mis Mehefin 08.
Byddwn yn trefnu digwyddiadau Speak-Out yn rheolaidd, i roi cyfle i bobl ifanc gael dweud eu barn am Wasanaethau Plant. Yn ddiweddar, fe wnaethom drefnu digwyddiad efo pobl ifanc o Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych, oedd yn beth da iawn.
Rydym wedi helpu i drefnu 2 seremoni wobrwyo i ddathlu cyflawniadau pobl ifanc mewn gofal a phlant sy’n gadael gofal. Roedd ein cyfraniad ni mor dda nes ein bod wedi cael gwahoddiad i wneud hyn eto eleni.
Rydym wedi cyfweld pobl ar gyfer swyddi yn y Gwasanaethau Plant. Y swydd olaf i ni fod yn cyfweld ar ei chyfer oedd y Rheolwr Diogelu Plant.
Rydym wedi cyfweld eiriolwyr ar gyfer y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol. Roeddem ni hefyd yn helpu NYAS i ddewis eu Swyddog Cyfranogiad Gogledd-ddwyrain Cymru.
Byddwn yn mynd i lawer o ddigwyddiadau ymgynghori.
Rydym ni wedi bod yn trefnu sesiynau ‘Galw Heibio’ am bron flwyddyn o amser, ond does dim gymaint o bobl wedi bod yn dod yno ag yr oeddem yn gobeithio. Rydym ni wedi ysgrifennu adroddiad ar gyfer uwch reolwyr am hyn, felly fydd sesiynau ddim yn digwydd am dipyn, nes byddwn yn clywed yn ôl ganddynt.
Bydd Tom yn eistedd ar y Fforwm Gwasanaethau Plant (mae hwn yn gyfarfod pwysig iawn lle bydd llawer o bethau’n cael eu penderfynu) a byddwn yn gwneud yn siŵr fod pobl ifanc yn cael llais.
Yn unigol, rydym wedi datblygu llawer o sgiliau newydd. Fe gafodd un aelod swydd barhaol yn ddiweddar, ac fe ddywedodd y cyflogwr mai beth wnaeth y gwahaniaeth i’w dewis hi yn lle pawb arall oedd yr holl sgiliau roedd hi wedi’u hennill fel aelod o’r grŵp!
Os cewch amser, edrychwch ar ein hadroddiadau ‘Speak-Out!’:
Digwyddiadau
Os ydych chi fel ni ac yn malio am bethau neu eisiau cymryd rhan efo’r Tîm Gadael Gofal, mae croeso i chi ymuni efo ni.
o Rydym yn trefnu digwyddiad ‘Speak-Out!’ ar gyfer hanner tymor mis Chwefror a byddwn yn ysgrifennu atoch yn nes at yr amser i roi gwybodaeth i chi amdano.
Eich barn chi!
Dyma lle gallwch ddweud eich dweud.
Os oes unrhyw beth yr hoffech ei ddweud wrth y grŵp, cysylltwch â ni a gallwn lwytho’r wybodaeth ar y wefan. Gallwch anfon e-bost at
speak-out@hotmail.co.uk neu bostio eich barn at:
Alison Davies
Gwasanaethau Plant
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6ND
Gofalwch eich bod yn nodi’ch enw a’ch oedran.
Diolch i chi am roi o’ch amser i ddarllen ein tudalen.