Hyfforddiant a Chyflogaeth
Gorchwyl rhwystredig iawn yw chwilio am swydd o bryd i’w gilydd, yn enwedig i’r rhai a fu’n ddi-waith ers tro byd. Na phryderwch os ydych yn cael trafferth cael gwaith - mae nifer o bobl a all eich helpu a’ch cynghori.
Manteisiwch ar arbenigedd swyddogion Gyrfa Cymru – mae ganddynt ddwy swyddfa yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Gallant eich cynorthwyo i lunio CV a llenwi ffurflen gais, yn ogystal â’ch hyfforddi ar gyfer cyfweliad. Ffoniwch 0800 919520, neu galwch heibio i un o’u siopau:
Yr Wyddgrug Ffôn: 01352 755798
Glannau Dyfrdwy Ffôn: 01244 813316
Mae cyngor a gwybodaeth ynglyn â swyddi a hyfforddiant hefyd i’w cael mewn swyddfa Job Centre Plus, yn enwedig swyddi rhan amser neu waith penwythnos. Mae ganddynt siopau yn y llefydd a ganlyn:
Y Fflint Ffôn : 01352 896400
Treffynnon Ffôn : 01352 896300
Yr Wyddgrug Ffôn : 01352 894400
Shotton Ffôn : 01244 583700
Mae gwirfoddoli yn ddull da o ennill profiad gwaith a dysgu sgiliau newydd. Bydd hynny yn ei dro’n cyfoethogi’ch CV, ac o’ch plaid pan fyddwch yn ceisio am swydd. Mae Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yn cynnal Biwro Gwirfoddoli sy’n cynghori ynglyn â chyfleoedd hyfforddi - edrychwch ar eu gwefan, neu ffoniwch 01352 755008.
Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog ar gyfer y rhai rhwng 14 – 30 oed sy’n cael trafferth rhoi eu bywyd mewn trefn. Mae gweithwyr yr Ymddiriedolaeth yn cynnig help ymarferol gan gynnwys hyfforddiant, mentora a chymorth ariannol.
Gallant drawsnewid bywydau unigolion sydd wedi ei chael yn anodd yn yr ysgol, y rhai a fu mewn gofal, troseddwyr, neu’r rhai sy’n ddi-waith ers tro byd. Ffoniwch 0800 842 842 ac fe gewch eich trosglwyddo i swyddfa leol yr Ymddiriedolaeth.