Ieuenctid Sir Fflint

Iechyd

Os ydych yn dioddef problemau iechyd, ceisiwch weld eich meddyg teulu – bydd y meddyg yn gyfarwydd â’ch hanes a’ch cyflwr. Os na wyddoch ble mae’r feddygfa agosaf atoch, cliciwch yma i weld rhestr o feddygfeydd Sir y Fflint.

Os ydych dan straen, yn unig, neu y mae arnoch angen gwybodaeth ynglyn â’ch iechyd, mae’n siwr y medrwch drafod eich pryderon gyda nyrs yr ysgol. Bydd y nyrs yn trin eich problemau’n gyfrinachol ac yn cynnig sut y dylid eu datrys. Gofynnwch i rywun yn yr ysgol yr ydych yn ymddiried ynddo/ynddi sut i drefnu apwyntiad gyda’r nyrs.

Os nad ydych yn dymuno siarad gyda’ch meddyg teulu neu nyrs yr ysgol gallwch fanteisio ar wybodaeth a chyngor cyfrinachol yn ymwneud ag iechyd drwy ffonio Galw Iechyd Cymru: 0845 46 47

Os ydych rhwng 13-17 oed ac eisiau gwybodaeth am eich iechyd, Yr Ystafell yw’r lle i chi. Gwefan Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i bobl ifanc yng Nghymru yw Yr Ystafell.

Doctoriaid, Deintyddion ac Optegwyr
Y Bwrdd Iechyd Lleol sy’n trefnu gwasanaethau iechyd ar gyfer trigolion Sir y Fflint – porwch eu gwefan i weld manylion fferyllfeydd, deintyddion ac optegwyr y sir.

Iechyd Rhyw
A oes arnoch angen rhagor o wybodaeth ynglyn â dulliau atal cenhedlu, heintiau a ledaenir trwy gyfathrach rywiol, neu erthylu? Cliciwch ar y cyswllt hwn er mwyn gwybod lle y cewch wybodaeth a chyngor am iechyd rhyw.

Cam-ddefnydd Sylweddau
Llinell Cymorth Cymru a Gyffuriad ac Alcohol - 0800 6 33 55 88

FRANK

Cliciwch yma i weld y Cardiau Iechyd a gynhyrchwyd gyda help myfyrwyr Coleg Glannau Dyfrdwy yn 2006.