Menter Ieuenctid Eryri
Nod:
"Addysgu sut i fyw yn gynaliadwy drwy ddarparu profiadau awyr agored yn
amgylchedd Eryri"
Mae hwn yn brofiad anhygoel i chi! Felly, os wyt ti rhwng 14 a 25 mlwydd oed â diddordeb i wneud gwahaniaeth fe alli di gymryd rhan yn y prosiect gwych yma yn Eryri - a’i fwynhau! Ethos y prosiect yw rhoi’r cyfle i ti ymgymryd â gweithgareddau creadigol a chorfforol mewn ardal fynyddig. Trwy’r fenter byddi yn cynyddu dy ymrwymiad a chyfranogiad i’r ardal, ac yn ehangu dy gyfleoedd a phrofiadau ym maes yr amgylchedd ac awyr agored.
Mae parchu’r amgylched yn ganolog i’r prosiect, ac fe roddai’r prosiect y siawns i chdi ddysgu amrywiaeth o sgiliau newydd gan gynnwys sgiliau bywyd, diwylliannol & ieithyddol, amgylcheddol, cadwriaethol ac o antur yn Eryri. A gyda’r gweithgareddau yn rhai heriol, ymarferol, pwrpasol, arbrofol ac yn llawn hwyl byddi yn sicr o feddu ar brofiadau bywyd bythgofiadwy.
Pa fath o weithgareddau alli di wneud ar y prosiect?
Trwy gydol y prosiect mi fydd y berthynas gyda’r amgylchedd a thir yn amlwg, a gwêl hyn trwy’r rhestr gweithgareddau y medrwn i gynnig.
‘Bushcraft’ Gwaith Coed, Ffermio Organig, Canŵio, Tasgau Cadwriaethol, Teithiau Beicio, Darllen Map/ Cyfeiriannu & Teithiau Cerdded, Cerdded Ceunentydd, Gemau tîm – Cynnwys gemau coetir, Storiâu / Drama / Celf, Adeiladu llochesi, Sgiliau Ieithyddol, Dringo Cerdded Mynyddoedd
Sut:
I beilota’r cynllun eleni rydym angen grŵp o 10-12 person ifanc gyda dau arweinydd i gyfranogi. Rydym yn hyblyg iawn, felly os ydych i yn grŵp o lai na 10 gyda diddordeb- cysylltwch am sgwrs beth bynnag.
Medrwn gynnig ymweliadau undydd neu brofiad preswyl (2 noson) i grwpiau.
Hoffwn yn ogystal eich syniadau a’ch barn ar sut i ddatblygu’r prosiect i’r dyfodol, a thrwy gymryd rhan fe allwch i wneud hyn a gwneud gwahaniaeth!
Cost:
Ymweliad undydd: £10 y pen
Ymweliad preswyl (2 diwrnod 2 noson cysgu mewn Yurt): £60 y pen y noson
Cam nesaf:
Felly os wyt ti yn rhan o grŵp ac a diddordeb yn y prosiect gwych yma, dywed wrth dy arweinydd ac yna rho alwad i ni ar 01766 510125– gofynnwch am Sioned Jones.
Crynodeb o Fenter Ymrwymo Pobl Ifanc yn Eryri