Ieuenctid Sir Fflint

Parentline Plus

Gall bywyd teuluol fod yn anodd weithiau. Mae rhieni a gofalwyr yn jyglo gofalu am blant gyda sefyllfaoedd anodd - genedigaeth, marwolaeth, priodas, ysgariad, newid ysgolion, swyddi neu symud tŷ.

Weithiau mae’n bosibl na fydd rhieni yn gwybod pa le i droi am gymorth, cefnogaeth neu glust i wrando.

Mae Parentline Plus yn elusen genedlaethol sy’n cefnogi rhieni, beth bynnag fo’u pryderon.
Mae Parentline Plus yn cynnig:
• Llinell gymorth gyfrinachol am ddim 0808 800 2222
• Ffôn destun am ddim 0800 783 6783 (i bobl â nam ar eu clyw neu'u lleferydd)
• Cyrsiau, gweithdai neu grwpiau
• Taflenni gwybodaeth
• Gwefan www.parentlineplus.org.uk
• Llinell gymorth ar e-bost contact@parentlineplus.org.uk
Mae posteri a chardiau Parentline Plus ar gael drwy Sir y Fflint er mwyn cefnogi defnydd o’r gwasanaeth gwerthfawr hwn sydd ar gael AM DDIM i bob rhiant.
Ar hyn o bryd, nid yw'r llinell yn cynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn adolygu hyn. Mae llawer o gyfarwyddyd, taflenni a phosteri y gellir eu dadlwytho i gynorthwyo rhieni a phobl ifanc.