Partneriaeth Y Fframwaith Plant a Phobl Ifanc

Edrychwch am wybodaeth ynglyn â sut y gall y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc eich helpu chi.
Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys unigolion o amrywiol wasanaethau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i roi iddynt y gorau sydd gan fywyd i’w gynnig. Ein nod yw sicrhau eich bod ymwybodol o’r hyn y mae modd ei wneud yn eich ardal, a lle y medrwch fanteisio ar gymorth a chyngor.
Gallwn hefyd eich helpu o ran gofalu bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y sir yn clywed eich barn. Os hoffech fynegi barn ynghylch rhywbeth sy’n effeithio ar ieuenctid Sir y Fflint, anfonwch neges e-bost atom.
Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawliau, megis:
* y cychwyn gorau i’w bywyd;
* amser i chwarae a mwynhau eu hunain;
* y cyfle i ragori, hyd yn oed os nad oes gennych lawer o arian;
* iechyd o ran y corff a’r meddwl;
* eu gwarchod rhag niwed, a’u trin yn dda a gyda pharch;
* cartref a chymdogaeth ddiogel i fyw;
* mathau o ddysgu priodol;
* i fynegi barn, waeth pwy ydynt.
Mae gan bobl ifanc 11 – 25 oed hawliau ychwanegol. Mae’r Bartneriaeth Ieuenctid yn eu cynorthwyo i fanteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd ar gael trwy:
* Ddatblygu gwasanaethau y mae pobl ifanc yn rhan ohonynt, gyda’r bobl ifanc.
* Cynghori’r rhai rhwng 0-25 oed.
* Gofalu bod y cyfleoedd dysgu a ddaw i’ch rhan y gorau sydd.
* Sicrhau eich bod â rhan yng ngweithgareddau’ch cymuned.
* Creu amgylchedd braf ichi fyw ynddo.
* Gofalu bod y gwasanaethau’n rhoi ‘gwerth am arian’.
* Gweithredu cynlluniau’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn yr ydych â hawl eu cael, a sut i’w cael!