Ieuenctid Sir Fflint

Pleidleisiwch yn Erbyn Trais yn y Cartref

Mae ChildLine wedi lansio ymgyrch ddwyieithog sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan drais yn y cartref. Mae’r effeithiau hyn yn gallu cynnwys methu â chysgu, poeni am aelodau o’u teulu a phryderu am eu diogelwch, er hynny prin iawn y sylwir ar effaith y gamdriniaeth hon. Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch, edrychwch ar: Childline