Pobl ifanc HLDTA?
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint yn sefydlu grŵp newydd yn eich ardal.
Darganfod anghenion pobl ifanc Sir y Fflint sy’n Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol a Chwestiynol (LGBTQ).
Mae Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint, ar ran Partneriaeth Pobl Ifanc Sir y Fflint (YPP), wedi gwneud ymchwil i ddarganfod anghenion y gymuned LGBTQ.
Mae pedwar prif nod i’r ymchwil:
• Darganfod a yw pobl ifanc sydd yn LGBTQ yn wynebu materion o fewn y Sir a beth yn eu barn nhw sydd ei angen yn lleol i’w cefnogi.
• Darganfod beth sydd eisoes ar gael yn Sir y Fflint.
• Darganfod beth mae siroedd eraill yn ei wneud a sut y mae’n effeithio ar bobl ifanc sydd yn LGBTQ.
• Gweld pa adnoddau a gwybodaeth sydd ar gael ar wefannau dethol.
Mae’r adroddiad llawn ar gael i’w lawrlwytho yn awr drwy glicio yma.
Bydd y Bartneriaeth Pobl Ifanc ac eraill yn edrych ar sut y gellir dwyn y gwaith hwn yn ei flaen, ond maent hefyd yn gofyn i eraill roi gwybod iddynt am unrhyw ddatblygiadau, projectau neu weithredoedd sydd yn effeithio ar y grŵp hwn o bobl ifanc ers neu o ganlyniad i wneud yr ymchwil hwn.
Ebostiwch Emma Jones yn y PPI neu emma_jones@flintshire.gov.uk neu ffoniwch ar 01352 704147.
Os ydych chi, neu os ydych chi'n meddwl eich bod wedi'ch trin yn wahanol; yn llai ffafriol neu wedi dod ar draws aflonyddu ar sail eich hil; grwp ethnig; crefydd; anabledd; rhyw; cyfeiriadedd rhywiol neu oedran mae'n bosibl y bydd Llion Parry ein gweithiwr achos gwahaniaethu yn gallu eich helpu. Ffoniwch 01244 846707 am apwyntiad. Canolfan Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint, Cable Street, Cei Conna, Sir y Fflint. CH5 4DZ.
'Ydych chi wedi dioddef trosedd casineb homoffobaidd?' - Stonewall Cymru 2008