Prosiect Gofalu am Bobl a Gofalu am Arian
“Estynnir gwahoddiad i Ofalwyr Ifanc, Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc a Gofalwyr sy’n Rheini rhwng 16 a 24 oed i ddysgu am Faterion Ariannol”
Nod y prosiect yw gweithio gyda rhwng 40 a 50 o ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr rhwng 16 a 24 oed drwy ddarparu pedwar cwrs hyfforddi dros dri diwrnod yn rhad ac am ddim. Bydd y prosiect yn manteisio ar ddulliau arloesol o rannu gwybodaeth a chyngor, gan gynnwys defnyddio drama, celf, cerddoriaeth, dawns, barddoniaeth a rhyddiaith. Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn y cyrsiau’n dysgu am sgiliau rheoli arian, bancio, credyd, dyled, lle i ddod o hyd i help mewn argyfwng, sut i lunio cyllideb, a sut i arbed arian ar filiau tanwydd ayb.
Cynhelir y cwrs cyntaf ar 28ain, 29ain a’r 30ain Hydref yn adeilad Barnardo’s, Ffordd yr Wyddgrug, Bwcle, rhwng 10am a 3pm bob dydd. Darperir meithrinfa a lluniaeth ac mae’n bosibl y cewch gymorth gyda chludiant.
I gael lle yn rhad ac am ddim, ffoniwch neu anfonwch e-bost at:
Sarah Matthews (Rheolwraig Gwasanaethau Plant) 01244 551246
sarah.matthews@barnardos.org.uk
Neu
Mair Jones (Gweithwraig Prosiect) 01244 539928
mair.jones@barnardos.org.uk
Rhaglen Gallu Ariannol 2008/09
Gwasanaethau Sir y Fflint mewn partneriaeth â CAB dan nawdd Banc Barclays