Ieuenctid Sir Fflint

Sgiliau Sylfaenol

Mae gennych hawl i hyfforddiant sgiliau sylfaenol a fydd yn rhoi cyfleoedd ichi yn y dyfodol.

Mae byw a gweithio yn y byd sydd ohoni yn haws o lawer os medrwch ddarllen ac ysgrifennu, ond na phoenwch os byddwch yn cael trafferth gyda’ch mathemateg, neu wrth ddarllen neu ysgrifennu : mae nifer o bobl yn dioddef yr un fath, ac mae nifer o gyfleoedd y gallwch fanteisio arnynt i wella’ch sgiliau sylfaenol.

Mae Coleg Glannau Dyfrdwy yn cynnal cyrsiau Ail Gyfle i wella’ch sgiliau sylfaenol, a’ch dysgu sut i:

* Wella’ch safon o ran darllen, ysgrifennu a sillafu.
* Gwella’ch gallu i ysgrifennu llythyr a llenwi ffurflenni.
* Gwella’ch sgiliau mathemateg ar gyfer sefyllfaoedd pob dydd – arian, adio, tynnu, ffracsiynau, canrannau a rhifau degol.
* Llenwi ffurflen gais a llunio C.V.
* Hogi’ch sgiliau er mwyn ichi fedru helpu’ch plant pan fyddant yn gwneud eu gwaith cartref.
* Gwella’ch siawns o gael gwaith.

Os hoffech ragor o wybodaeth a chyngor cyfrinachol ffoniwch Tricia Delaney neu Gill Downer ar 01244 836607. Cynhelir cyrsiau gan y Coleg ar eu prif safle yn Queensferry yn ogystal â’u safleoedd allanol: Ty Terrig, Yr Wyddgrug, Llyfrgell Y Fflint a Llyfrgell Treffynnon, ac mae modd ichi ymuno trwy gydol y flwyddyn.

Mae manylion cyrsiau Sgiliau Sylfaenol hefyd i’w cael fel a ganlyn:

* Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol Cymru: 0800 700987

* Cymorth i Fyfyrwyr, Cyngor Sir y Fflint: 01352 704072