Siop Wybodaeth Treffynnon
Mae’r siop wybodaeth newydd ar gyfer pobl ifanc bellach yn gwbl weithredol. Dyma’r gyntaf o’i bath yn y sir ac mae yma i roi mynediad i chi at wybodaeth am ystod o faterion sy’n berthnasol i’ch bywyd os ydych rhwng 11 a 25 oed.
Mae’r wybodaeth a ddarperir yn:
• Ddi-dâl ac yn gyfrinachol
• Annibynnol a diduedd
• Cywir a diweddar
• Cwmpasu holl anghenion a diddordebau.
Mae’r gwasanaethau a ddarperir yn cynnwys:
• Mynediad am ddim at y rhyngrwyd i gael gwybodaeth sy’n arbennig ar gyfer pobl ifanc
• Taflenni, pamffledi a phosteri am ddim am ystod eang o bynciau
• Cefnogaeth a chyfarwyddyd cyfrinachol gan staff hyfforddedig a phroffesiynol sy’n cefnogi pobl ifanc.
• Cyfeirio a rhoi mynediad i bobl ifanc at sefydliadau a gwasanaethau eraill.
Mae gweithwyr arbenigol sydd ar gael yn cynnwys:
• Cynghorydd Gyrfa Cymru ar ddydd Mawrth
• Gweithwyr Camddefnyddio Sylweddau ar ddydd Llun a dydd Mercher 3pm – 5pm
• Clinig a meddyg ‘CHAT’ ar ddydd Mercher 12.30 – 1.30pm
• Addysg / gwybodaeth ‘rhyw diogel’ a chondomau ar gael am ddim dan y ‘Cynllun Cerdyn C’.
Oriau agor
Dydd Llun – dydd Sadwrn 12 – 2pm
Dydd Llun – dydd Gwener 3 – 5pm
Siop Wybodaeth Ieuenctid Sir y Fflint
79 Stryd Fawr, Treffynnon, Sir y Fflint. CH8 7TF
Ffôn/Ffacs: 01352 717818
E-bost: youth.info@flintshire.gov.uk