Swyddog Datblygu Campau Olwyn
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gyflwyno fy hun, a fy swydd newydd yn datblygu ‘campau olwyn’ yn Sir y Fflint.
Wrth i gampau olwyn gynyddu mewn poblogrwydd ac wrth i’r galw am ddarpariaeth gynyddu yn Sir y Fflint, ac yn unol â Chynllun Sengl Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint, crewyd swydd Swyddog Datblygu Campau Olwyn mewn partneriaeth gydag Uned Chwarae Cyngor Sir y Fflint, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Bwrdd Rheoli Cymorth Sir y Fflint, Groundworks Wrecsam a Sir y Fflint, Gwagleoedd Chwaraeon Barclays a Chwaraeon Sir y Fflint (Cytundeb Partneriaeth Awdurdod Lleol).
Rwyf wedi mwynhau pob math o gampau olwyn gydol fy oes a bum yn gweithio fel Swyddog Campau Olwyn yn Camp America am ddau dymor a threuliais flwyddyn yn gweithio gyda Thîm Troseddwyr Ifanc Sir y Fflint hefyd, gan weithio gyda phobl ifanc i’w hannog i lwyddo a chyflawni drwy gyfrwng cynllun Gwobr Dug Caeredin.
I ddechrau fy nod fydd:-
Cynyddu a datblygu rhagor o gyfleoedd ar gyfer campau olwyn i blant a phobl ifanc ar draws Sir y Fflint
Canolbwyntio ar geisio cael gwared o unrhyw rwystrau sy’n atal plant a phobl ifanc rhag cymryd rhan mewn campau olwyn
Gweithio’n agos efo plant, pobl ifanc a chymunedau lleol
Datblygu sianeli cyfathrebu addas ac effeithiol e.e. gwefan Cyngor Sir y Fflint
Darparu gweithdai a digwyddiadau - e.e. Flint Freewheelin' 2009
Cryfhau’r partneriaethau sy’n bodoli eisoes a datblygu partneriaethau newydd a phriodol i hybu campau olwyn.
Mae campau olwyn yn cynnwys beicio mynydd, beicio BMX, sglefrfyrddio, sglefrolio a beicio a’r holl faterion sy’n gysylltiedig â’r campau hyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, neu os hoffech gael cyngor neu arweiniad ar unrhyw gampau olwyn yn Sir y Fflint, mae croeso i chi gysylltu gyda mi.
Alex Gray
Swyddog Datblygu Campau Olwyn
Cyngor Sir y Fflint
Gwasanaethau Hamdden
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6ND
Alexander_J_Gray@flintshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01352 702482 (temp)
Rhif ffôn symudol: 07920541546