Ieuenctid Sir Fflint

Tai

Mae nifer o weithwyr proffesiynol yn y sir a all eich helpu a’ch cynghori o ran dod o hyd i rywle diogel a chyfforddus i fyw, neu eich helpu pan fyddwch yn wynebu problemau yn y lle yr ydych yn byw ar hyn o bryd.

Tai Cyngor
Ffoniwch Adran Tai Cyngor Sir y Fflint (01352 703532) os ydych yn byw mewn ty cyngor ac y mae arnoch angen gwneud ymholiad am y lle hwnnw, neu os hoffech wybod sut i wneud cais am denantiaeth ty; cyngor.

Mae Cymdeithas Tai Wales & West yn cynnig lle fforddiadwy i fyw. Gall swyddogion y Gymdeithas eich helpu i ddod o hyd i eiddo fforddiadwy ar osod yn Sir y Fflint – eu rhif ffôn yw 0870 013 1930.

Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn cynnig yr un gwasanaeth, a’u rhif ffôn yw
01352 763376

Digartrefedd
Os ydych yn ddigartref neu angen gwella cyflwr y lle yr ydych yn byw ynddo, neu os gwyddoch am rywun sy’n ddigartref, manteisiwch ar gymorth Shelter Cymru, elusen Gymreig yn ymwneud â thai a’r digartref. Gwaith yr elusen yw atal pobl rhag bod yn ddigartref, gwella cyflwr tai, a hyrwyddo hawl pob un ohonom i gael cartref diogel, addas a fforddiadwy. Rhif ffôn eich swyddog lleol yw 01244 545653, a rhif eu llinell gymorth (dydd a nos, ar gyfer argyfyngau) yw 0808 800 4444.

Mae swyddogion eich swyddfa Cyngor Ar Bopeth leol yn cynnig cyngor rhad ac am ddim – galwch draw i un o’r swyddfeydd, neu trefnwch apwyntiad drwy ffonio:

Y Fflint Ffôn : 01352 733187
Treffynnon Ffôn : 01352 711262
Yr Wyddgrug Ffôn :01352 753520