Teithio ar y bws am hanner pris – i bobl 16-18 oed
Mae hwn yn gynllun cerdyn teithio newydd lle gallwch deithio am hanner pris ar bron iawn bob bws yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam.
Does dim angen talu am y cardiau teithio, a byddant yn rhedeg hyd 2008!
Os ydych chi rhwng 16 ac 18 oed ac yn byw yn Sir y Fflint, ewch i www.16218.org, lle gallwch lawr lwytho ffurflen, gyrru eich manylion a ffotograff pasport ohonoch eich hunan a byddwch yn cael cerdyn drwy’r post – mae mor hawdd â hynny.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.16218.org
Gostyngiadau i bobl ifanc 19 – 22 oed sy’n teithio ar fysiau
Os ydych rhwng 19 a 22 oed ac yn byw yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint neu Wrecsam, gallech deithio ar nifer o wasanaethau bysiau lleol am bris llawer rhatach gyda’r cerdyn 19-22. Bydd y cerdyn yn rhoi gostyngiad o 23% o leiaf ar bob gwasanaeth bws a weithredir gan ARRIVA a gweithredwyr eraill sy’n cymryd rhan. I lawrlwytho ffurflen neu am fwy o wybodaeth ewch i www.19-22.org