Ieuenctid Sir Fflint

Y Commisiynydd Plant yn lansio gwasanaeth ffon newydd and ddim I blant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru

Heddiw (23 Mai) lansiodd Comisiynydd Plant Cymru wasanaeth ffôn a thestun newydd am ddim i blant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru, gan roi cyfle iddynt gael cyngor a chefnogaeth ar gyfer unrhyw faterion neu broblemau a allai fod ganddynt. Mae’r gwasanaeth ffôn a thestun ar gael am ddim, ac ni fydd y rhif yn ymddangos ar unrhyw fil ffôn. Mae’n wasanaeth dwyieithog, felly gall unrhyw un sy’n ffonio siarad â rhywun yn y Gymraeg neu Saesneg. Petaent yn teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad mewn iaith arall, gellir gwneud trefniadau i alluogi hynny.

Mae’r Comisiynydd yn llysgennad hawliau plant, a’i nod yw sicrhau eu bod yn cael eu clywed, eu hamddiffyn ac y gofelir amdanynt. Bydd lansio’r rhifau ffôn a thestun newydd am ddim yn ei gwneud hi’n haws i bobl ifanc gysylltu â ni. Gwnaeth Maria Battle, y Comisiynydd Plant dros dro, y sylw: “Ers i Peter Clarke, Comisiynydd cyntaf Plant Cymru gael ei benodi yn 2001, rydym wedi gweithio’n galed i helpu pobl ifanc ar draws Cymru. Y llynedd, buom yn helpu dros 500 o blant i sicrhau eu hawliau a chael dweud eu dweud am faterion yn ymwneud ag addysg, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, cynllunio, bwlio a cham-drin, cyfleoedd chwarae, yr amgylchedd a mwy. Ein gobaith yw y bydd y gwasanaeth ffôn a thestun newydd am ddim hwn yn cynyddu nifer y bobl ifanc rydym yn eu helpu bob blwyddyn ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau. Byddem yn annog unrhyw blentyn neu berson ifanc i gysylltu â ni os ydynt yn credu y gallwn helpu. Mae’r ddau rif ar gael am ddim ac ni fyddant yn dangos ar unrhyw fil.”

Mae Tanni Grey Thompson, y Bencampwraig Baralympaidd hefyd wedi rhoi ei chefnogaeth i’r ymgyrch. Meddai: "Rwy’n credu ei bod hi’n syniad da i’r Comisiynydd Plant lansio’r gwasanaeth ffôn hwn am ddim - mae gan bron bob person ifanc ddefnydd o ffôn a bydd hyn yn sicrhau bod mwy o bobl ifanc nag erioed yn gallu cyrraedd y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig. Mae gennym ddyletswydd i amddiffyn y bobl ifanc yn ein cymunedau ac i wrando ar eu barn am faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol arnyn nhw, a’u gwerthfawrogi, ac mae’n rhaid bod unrhyw fath o gyfathrebu sy’n galluogi hyn i ddigwydd yn beth da."

Y rhif i’w ffonio yw 0808 801 1000, neu i anfon neges destun defnyddiwch 80 800 a dechreuwch y testun gyda COM. Am fwy o wybodaeth rhowch alwad I Ally Forbes neu Tamsin Ackerman, Quadrant, Ffôn: 029 2069 4900
E-bost: allyson-forbes@quadrant.uk.com / tamsin.ackerman@quadrant.uk.com