Y Cynllun Plant a Phobl Ifanc 2008-11
Mae’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc yn falch iawn o lansio Cynllun Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint a fydd yn cwmpasu’r cyfnod o Ebrill 2008 hyd Fawrth 2011.
Mae’r cynllun a’r camau ynddo yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â blaenoriaethau a diwallu anghenion plant a phobl ifanc. Mae’n cymryd pob agwedd ar eu bywydau i ystyriaeth o’r cyfnod cyn-geni hyd at 25 oed. Mae hefyd yn cynnwys materion yn ymwneud â magu plant a theuluoedd. Mae angen mynd i’r afael â’r anghenion hyn trwy gael asiantaethau a gwasanaethau i gydweithio – ni all unrhyw asiantaeth na gwasanaeth fynd i’r afael â’r blaenoriaethau ar eu pen eu hunain.
Datblygwyd y cynllun gyda chyfraniadau gan ystod eang o blant, pobl ifanc a theuluoedd ynghyd â nifer o’r gwasanaethau a sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw. Efallai eich bod wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y blaenoriaethau a'r cynllun drafft yn nechrau 2008.
Y blaenoriaethau ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd yn Sir y Fflint yw:
§ Rhoi cymorth i rieni fagu eu plant
§ Lleihau ymddygiad a/neu amodau sy’n rhoi plant a phobl ifanc mewn perygl
§ Cefnogi unigolion a grwpiau sy’n agored i niwed
§ Diogelu plant a phobl ifanc
§ Gwella cyrhaeddiad plant a phobl ifanc mewn lleoliadau dysgu
§ Gofalu bod plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys
§ Lleihau effaith tlodi ac amddifadedd
§ Datblygu’r Gweithlu – cynnal gweithlu medrus, cymwys a deallus
§ Gofalu bod mwy o wybodaeth ar gael a’i bod yn hygyrch i bawb
Mae’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc (PPaPhI) aml-asiantaeth yn arwain ar weithredu y Cynllun. Os ydych yn blentyn, unigolyn ifanc, rhiant neu ofalwr neu os ydych yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu deuluoedd, yna mae'r cynllun a'r camau sydd ynddo yn berthnasol i chi.
Ynghlwm isod mae doleni i'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc 2008-11 a'r holl ddogfennau cefnogol. Os ydych eisiau gwybodaeth bellach cofiwch gysylltu â ni os gwelwch yn dda gan ddefnyddio’r manylion isod.
Neu os byddai’n well gennych gael copi papur neu gopi ar CD-Rom, ffoniwch
Tîm y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc
Ffôn: - 01352 702634 neu
E-bost:- Debbie.Roberts@Flintshire.gov.uk
Cynllun Plant a Phobl Ifanc Sir Y Fflint 2008-11
Cynllun Plant a Phobl Ifanc - Byr
Atodiad
1. Cylch Gwaith ag Aelodaeth PPPI
3. Assessiad 0 Anghenion
Cyflwyniad
Nod Craidd 1
Nod Craidd 2
Nod Craidd 3
Nod Craidd 4
Nod Craidd 5
Nod Craidd 6
Nod Craidd 7
4. Blaenoriathau Sir y Fflint
5. Canfyddiadau gweithdai a gynhaliwyd yn sail i ‘Gynllun Unigol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd’ Sir Y Fflint, a ‘Strategaeth Sir Y Fflint i Wella Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles’ (2008-2011)
Atodiad 3 - Ymatebion pobl yn yr ymgynghoriad
6. Strategaeth Cyfranogi Sir y Flint
7. Asesiad Digonedd Gofal Plant
8. Cynllun Gweithredu Rhianta Sir y Fflint
10. Cysylltiadau i Gynlluniau Gweithredu.
11. Fframwaith Rheoli Perfformaid
12. Asesiad Effaith Cydraddodeb
13. Asesiad Integreiddion Sir y Fflint