Y Gyfraith a'ch Hawliau
Y cyrff sy’n pennu’r gyfraith a’ch hawliau yw cynghorau lleol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Llywodraeth San Steffan, a Senedd Ewrop.
Troseddu
Mae’r rhai sy’n gwrthod ufuddhau’r gyfraith yn troseddu. Os ydych yn gweld rhywun yn cyflawni trosedd, neu os yw rhywun yn troseddu yn eich erbyn rhowch wybod i Heddlu Gogledd Cymru ar unwaith : eu rhif ffôn yn Sir y Fflint yw 01352 752321. Mae Grwp Cynnal Dioddefwyr Sir y Fflint hefyd yn cynorthwyo’r rhai y troseddir yn eu herbyn; eu rhif ffôn yw 01352 751538.
Eich Hawliau
Mae pob un ohonom yn meddu ar hawliau dynol sylfaenol; ewch ar clic arlein i gael gwybodaeth am yr hawliau hynny. Mae ieuenctid Cymru hefyd yn meddu ar hawliau eraill, sef hawliau cyfreithiol; defnyddiwch y cyswllt hwn i gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hynny, a’r modd y maent yn effeithio arnoch.
Mae rhagor o wybodaeth i’w chael trwy gyfrwng y cyswllt isod:
* Ewch ar clic arlein i gael gwybodaeth am y gyfraith a’ch hawliau cyfreithiol.