Ieuenctid Sir Fflint

Y Teulu a Chydberthnasau

Engrheifftiau o’r rhai sy’n agos atoch yw aelodau’ch teulu, eich cariad, eich athrawon a’ch ffrindiau. Mae cydberthnasau’n cyfoethogi’ch bywyd gan amlaf, ond o bryd i’w gilydd daw trafferthion yn eu sgil, ac anodd a rhwystredig iawn yw ymdopi â’r trafferthion hynny.

Os nad yw eich cydberthynas â rhywun yn fêl i gyd, peidiwch â dioddef yn dawel: gallwch drafod eich problem gyda rhywun priodol sydd ar gael i’w datrys.

Mae’r mudiad ChildLine yn cynorthwyo’r rhai sy’n dioddef yn sgil ysgariad, trais, helyntion gyda ffrindiau neu unrhyw broblem yn ymwneud â chydberthnasau. Edrychwch ar eu gwefan, neu ffoniwch 0800 1111.

Mae staff eich swyddfa Cyngor Ar Bopeth leol yn cynnig cyngor rhad ac am ddim, ac wedi eu hyfforddi i wrando ar eich cwyn a cheisio datrys eich problemau – galwch draw i un o’r swyddfeydd, neu trefnwch apwyntiad drwy ffonio:

Y Fflint Ffôn : 01352 733187
Treffynnon Ffôn : 01352 711262
Yr Wyddgrug Ffôn :01352 753520

Cymorth i Deuluoedd
Os ydych yn cael trafferth gartref gyda’ch teulu, manteisiwch ar Brosiect Cyfarfodydd Teulu Cyngor Sir y Fflint. Gall gweithwyr y Prosiect gynorthwyo chi a’ch teulu i drafod eich problemau a chynnig syniadau ar gyfer eu datrys. Eu rhif ffôn yw 01352 701000

Ysgariad
Os yw aelodau’ch teulu’n cweryla byth a beunydd oherwydd fod gwr a gwraig ar fin gwahanu neu ysgaru mae Gwasanaeth Cyfryngu Teulu Gogledd Cymru’n cynnig cyngor a chymorth. Gallant hwyluso trafodaethau ymhlith aelodau’ch teulu, gan obeithio datrys y broblem heb gweryla. Os tybiwch fod angen cymorth i gynorthwyo’ch teulu i ymdrin â’r sefyllfa pan fo gwr a gwraig naill ai’n ysgaru neu’n gwahanu ffoniwch Anne Davies: 01492 870876.

Magu Plant
Un o’r gorchwylion anoddaf, ond mwyaf pleserus, yn y byd yw magu plant; ystyriwch y pleser o weld eich plentyn yn gwenu am y tro cyntaf, ond hefyd y nosweithiau di- gwsg yn sgil baban sy’n gwrthod cysgu! Os yw magu plentyn yn peri trafferth, neu os ydych wedi’ch ynysu ac heb unrhyw un i dorri gair â hi / ag ef, cysylltwch â mudiad Home-Start. Mae gweithwyr Home-Start yn cynnig cymorth, cyfeillgarwch a help ymarferol i deuluoedd a chanddynt o leiaf un plentyn dan bump oed. Rhif ffôn y mudiad yn Sir y Fflint yw 01352 753666: cewch wybod pa wasanaethau a gynigir yn eich bro, yn ogystal â chyfeiriad eu gwefan.

Mae tim prosiect Cychwyn Cadarn Sir y Fflint yn cynorthwyo teuluoedd a chanddynt o leiaf un plentyn dan bedair oed. Maent yn trefnu sesiynau ‘galw heibio’ ar gyfer rhieni a’u plant, crèches a llyfrgell degannau, yn ogystal â chynnal prosiect diogelwch plant. Os hoffech fanteisio ar yr hyn a gynigir, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth ynglyn â sut y medrant helpu chi a’ch teulu, ffoniwch 01244 823234 neu dowch i un o’r sesiynau:

Safle ‘Galw Heibio’ Aston Rhif ffôn: 01244 823234
Canolfan Deulu Aston, Larch Ave, Shotton
Dydd Llun, Mercher a Gwener (9:15a.m.-11:15a.m.)

Safle ‘Galw Heibio’ Bwcle Ffôn: 01244 545021
Canolfan Westwood, Stryd Tabernacl, Bwcle
Dydd Mawrth a dydd Iau (11:00a.m.-2:00p.m.)

Safle ‘Galw Heibio’ Holway Ffôn : 01244 545021
Ty Prosiect Holway, Meadowbank, Holway, Treffynnon
Dydd Llun, Mercher a Gwener (11:00a.m.-2:00p.m.)

Cysylltau ychwanegol yn y maes ‘magu plant’:

* Dylai rhieni sengl gysylltu â’r mudiad Gingerbread