Yr Amgylchedd
Os yw eich amgylchedd o bwys ichi, ac yr ydych yn awyddus i’w warchod, ymunwch â grwp lleol sy’n gweithredu yn y maes.
Bywyd Gwyllt
Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn gwarchod bywyd gwyllt Sir y Fflint, ac yn cynnal llawer o waith ym Mharc Gwledig Loggerheads ger Yr Wyddgrug. Ymunwch â’r Ymddiriedolaeth fel gwirfoddolwr – ewch i’r digwyddiadau lleol a drefnir ganddynt neu ymunwch â’u clwb bywyd gwyllt. Cysylltwch â hwy drwy ffonio 01352 810469 neu anfon neges e-bost:nwwte@cix.co.uk.
Yr Amgylchedd
Mae Cyfeillion y Ddaear Sir y Fflint yn ceisio codi ymwybyddiaeth ynglyn â materion amgylcheddol y sir. Os hoffech wybod sut y medrwch ymuno â’u gweithgareddau a’u helpu ffoniwch 01352 710714.
Sbwriel ac Ailgylchu
Cysylltwch ag adran Gwasanaethau’r Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint os yw sbwriel neu wastraff wedi ei adael yn eich cymdogaeth, ac yr ydych am i’r Cyngor ei glirio oddi yno. Mae Gwasanaethau’r Amgylchedd yn gyfrifol am:
* Cael gwared ar gerbydau wedi eu gadael
* Casglu gwastraff
* Cael gwared ar anifeiliaid wedi marw ar y ffordd
* Casglu biniau
* Cael gwared ar eitemau wedi eu gadael ar fin y ffordd
* Safleoedd a chynlluniau ailgylchu
Os tybiwch y gallai’r Gwasanaeth wella glendid eich cymdogaeth, ffoniwch eu swyddfa: 01352 703350.
Mae llu o grwpiau eraill yn Sir y Fflint sydd a wnelont â’r amgylchedd a bywyd gwyllt. Edrychwch ar Gyfeirlyfr Cymuned Ar-lein y Cyngor Sir i weld manylion y grwpiau hynny, ac ymunwch â hwy er mwyn gwneud Sir y Fflint yn le glanach a gwell i fyw.